Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 11:8-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.

9. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem.

10. Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i'w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â'u tadau hwynt.

11. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt.

12. Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogldarthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd.

13. Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i'r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal.

14. Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd.

15. Beth a wna fy annwyl yn fy nhŷ, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a'r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit.

16. Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr Arglwydd dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tân ynddi, a'i changhennau a dorrwyd.

17. Canys Arglwydd y lluoedd, yr hwn a'th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i'm digio i, trwy fwgdarthu i Baal.

18. A'r Arglwydd a hysbysodd i mi, a mi a'i gwn; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy.

19. A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i'w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â'i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy.

20. Eithr, O Arglwydd y lluoedd, barnwr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a'r galon, gwelwyf dy ddialedd arnynt; canys i ti y datguddiais fy nghwyn.

21. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy einioes, gan ddywedyd, Na phroffwyda yn enw yr Arglwydd, rhag dy farw trwy ein dwylo ni:

22. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn ymweled â hwynt: y gwŷr ieuainc a fyddant feirw trwy'r cleddyf, a'u meibion a'u merched a fyddant feirw o newyn.

23. Ac ni bydd gweddill ohonynt; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth, sef blwyddyn eu gofwy.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 11