Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 10:4-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo.

5. Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt.

6. Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, Arglwydd: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid.

7. Pwy ni'th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi.

8. Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff.

9. Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo'r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll.

10. Eithr yr Arglwydd ydyw y gwir Dduw, efe yw y Duw byw, a'r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a'r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef.

11. Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a'r ddaear, difethir hwynt o'r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.

12. Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr.

13. Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i'r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda'r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o'i drysorau.

14. Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.

15. Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.

16. Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. Arglwydd y lluoedd yw ei enw.

17. Casgl o'r tir dy farsiandïaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa.

18. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.

19. Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a'i dygaf.

20. Fy mhabell i a anrheithiwyd, a'm rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni.

21. Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr Arglwydd: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir.

22. Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.

23. Gwn, Arglwydd, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 10