Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 10:13-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i'r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda'r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o'i drysorau.

14. Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.

15. Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.

16. Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. Arglwydd y lluoedd yw ei enw.

17. Casgl o'r tir dy farsiandïaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa.

18. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.

19. Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a'i dygaf.

20. Fy mhabell i a anrheithiwyd, a'm rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni.

21. Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr Arglwydd: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 10