Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 10:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch y gair a ddywed yr Arglwydd wrthych chwi, tŷ Israel:

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a'u hofnant hwy.

3. Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o'r coed, gwaith llaw y saer, â bwyell.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 10