Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 1:7-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y'th anfonwyf, a'r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi.

8. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i'th waredu, medd yr Arglwydd.

9. Yna yr estynnodd yr Arglwydd ei law, ac a gyffyrddodd â'm genau. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di.

10. Gwêl, heddiw y'th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.

11. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi.

12. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i'w gyflawni.

13. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Mi a welaf grochan berwedig, a'i wyneb tua'r gogledd.

14. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, O'r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir.

15. Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr Arglwydd, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda.

16. A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a'm gadawsant, ac a arogldarthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 1