Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb.

5. Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a'u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a'm dwfr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diodydd.

6. Am hynny wele, mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau.

7. A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a'u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon.

8. Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a'i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal.

9. Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a'm gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin a guddiai ei noethni hi.

10. A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o'm llaw i.

11. Gwnaf hefyd i'w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a'i Sabothau, a'i holl uchel wyliau, beidio.

12. A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a'i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a'u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a'u difa hwynt.

13. A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl‐darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a'i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.

14. Am hynny wele, mi a'i denaf hi, ac a'i dygaf i'r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon.

15. A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o'r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft.

16. Y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y'm gelwi Issi, ac ni'm gelwi mwyach Baali.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2