18. A'r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a'r bwa, a'r cleddyf, a'r rhyfel, a dorraf ymaith o'r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel.
19. A mi a'th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau.
20. A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a thi a adnabyddi yr Arglwydd.
21. A'r dydd hwnnw y gwrandawaf, medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf; a hwythau a wrandawant ar y ddaear;
22. A'r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a'r gwin, a'r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel.
23. A mi a'i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.