Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dywedwch wrth eich brodyr, Ammi; ac wrth eich chwiorydd, Rwhama.

2. Dadleuwch â'ch mam, dadleuwch: canys nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei phuteindra o'i golwg, a'i godineb oddi rhwng ei bronnau;

3. Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun, a'i gosod fel y dydd y ganed hi, a'i gwneuthur fel anialwch, a'i gosod fel tir diffaith, a'i lladd â syched.

4. Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb.

5. Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a'u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a'm dwfr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diodydd.

6. Am hynny wele, mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau.

7. A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a'u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon.

8. Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a'i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal.

9. Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a'm gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin a guddiai ei noethni hi.

10. A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o'm llaw i.

11. Gwnaf hefyd i'w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a'i Sabothau, a'i holl uchel wyliau, beidio.

12. A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a'i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a'u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a'u difa hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2