Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 10:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Samaria, ei brenin a dorrir ymaith fel ewyn ar wyneb y dwfr.

8. A distrywir uchelfeydd Afen, pechod Israel; dring drain a mieri ar eu hallorau: a dywedant wrth y mynyddoedd, Gorchuddiwch ni; ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.

9. O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibea: yno y safasant; a'r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt.

10. Wrth fy ewyllys y cosbaf hwynt: a phobl a gesglir yn eu herbyn, pan ymrwymont yn eu dwy gŵys.

11. Ac Effraim sydd anner wedi ei dysgu, yn dda ganddi ddyrnu; a minnau a euthum dros degwch ei gwddf hi: paraf i Effraim farchogaeth: Jwda a ardd, a Jacob a lyfna iddo.

12. Heuwch i chwi mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd; braenerwch i chwi fraenar: canys y mae yn amser i geisio yr Arglwydd, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch.

13. Arddasoch i chwi ddrygioni, medasoch anwiredd, bwytasoch ffrwyth celwydd; am i ti ymddiried yn dy ffordd dy hun, yn lluosowgrwydd dy gedyrn.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 10