Hen Destament

Testament Newydd

Haggai 2:5-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch.

6. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r sychdir;

7. Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd Arglwydd y lluoedd.

8. Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd Arglwydd y lluoedd.

9. Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na'r cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd Arglwydd y lluoedd.

10. Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,

11. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,

12. Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â'i gwr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu â'r gwin, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant.

13. A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A'r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan.

14. Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Arglwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberthant yno, yn aflan.

15. Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o'r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd;

16. Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o'r cafn, ugain a fyddai yno.

17. Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd.

18. Ystyriwch yr awr hon o'r dydd hwn ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, ac ystyriwch o'r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Haggai 2