Hen Destament

Testament Newydd

Haggai 2:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd,

2. Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd,

3. Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim?

4. Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr Arglwydd; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr Arglwydd, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd Arglwydd y lluoedd:

5. Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch.

6. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r sychdir;

Darllenwch bennod gyflawn Haggai 2