Hen Destament

Testament Newydd

Haggai 1:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd,

2. Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd.

3. Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,

4. Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd?

5. Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.

6. Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.

7. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.

8. Esgynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Haggai 1