7. Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian.
8. A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth?
9. Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd.
10. Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.
11. Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair.
12. Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter.
13. Aethost allan er iachawdwriaeth i'th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â'th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela.
14. Trywenaist ben ei faestrefydd â'i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i'm gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch.
15. Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion.
16. Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a'u difetha hwynt â'i fyddinoedd.