Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 3:15-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion.

16. Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i'm hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a'u difetha hwynt â'i fyddinoedd.

17. Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a'r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai:

18. Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth.

19. Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth, a'm traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I'r pencerdd ar fy offer tannau.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 3