1. Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth.
2. Clywais, O Arglwydd, dy air, ac ofnais: O Arglwydd, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd.
3. Duw a ddaeth o Teman, a'r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a'r ddaear a lanwyd o'i fawl.
4. A'i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o'i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder.
5. Aeth yr haint o'i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef.
6. Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a'r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo.
7. Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian.
8. A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth?
9. Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd.
10. Y mynyddoedd a'th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel.