Hen Destament

Testament Newydd

Habacuc 1:3-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson.

4. Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.

5. Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi.

6. Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt.

7. Y maent i'w hofni ac i'w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a'u rhagoriaeth.

8. A'u meirch sydd fuanach na'r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a'u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.

9. Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod.

10. A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a'i goresgynnant.

Darllenwch bennod gyflawn Habacuc 1