Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 6:11-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A'r ddaear a lygrasid gerbron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.

12. A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.

13. A Duw a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a'u difethaf hwynt gyda'r ddaear.

14. Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg.

15. Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.

16. Gwna ffenestr i'r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.

17. Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.

18. Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i'r arch yr ei di, tydi a'th feibion, a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi.

19. Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i'r arch i'w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant.

20. O'r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o'r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i'w cadw yn fyw.

21. A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.

22. Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 6