Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 6:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,

2. Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisasant.

3. A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a'i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.

4. Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o'r rhai hynny iddynt: dyma'r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.

5. A'r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.

6. Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.

7. A'r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.

8. Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd.

9. Dyma genedlaethau Noa: Noa oedd ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda Duw y rhodiodd Noa.

10. A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth.

11. A'r ddaear a lygrasid gerbron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 6