Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 50:7-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef,

8. A holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a'u defaid, a'u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.

9. Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.

10. A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.

11. Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad; yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel‐Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.

12. A'i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.

13. Canys ei feibion a'i dygasant ef i wlad Canaan, ac a'i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda'r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.

14. A dychwelodd Joseff i'r Aifft, efe, a'i frodyr, a'r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 50