Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 50:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Gorchmynnodd Joseff hefyd i'w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel.

3. Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a'i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain.

4. Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd,

5. Fy nhad a'm tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y'm cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.

6. A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y'th dyngodd.

7. A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef,

8. A holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a'u defaid, a'u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.

9. Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.

10. A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 50