Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 50:18-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A'i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.

19. A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle Duw?

20. Chwi a fwriadasoch ddrwg i'm herbyn; ond Duw a'i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer.

21. Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a'ch cynhaliaf chwi, a'ch rhai bach. Ac efe a'u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.

22. A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg.

23. Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff.

24. A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a'ch dwg chwi i fyny o'r wlad hon, i'r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.

25. A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a'ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 50