14. A dychwelodd Joseff i'r Aifft, efe, a'i frodyr, a'r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.
15. Pan welodd brodyr Joseff farw o'u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a'n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.
16. A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,
17. Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a'u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho.
18. A'i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.
19. A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle Duw?