Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 49:27-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty'r ysglyfaeth, a'r hwyr y rhan yr ysbail.

28. Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll; a dyma'r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.

29. Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyda'm tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad;

30. Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.

31. Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea.

32. Meddiant y maes, a'r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.

33. Pan orffennodd Jacob orchymyn i'w feibion, efe a dynnodd ei draed i'r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 49