Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 49:20-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.

21. Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.

22. Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur.

23. A'r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a'i casasant ef.

24. Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:

25. Trwy Dduw dy dad, yr hwn a'th gynorthwya, a'r Hollalluog, yr hwn a'th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a'r groth.

26. Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.

27. Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty'r ysglyfaeth, a'r hwyr y rhan yr ysbail.

28. Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll; a dyma'r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt.

29. Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyda'm tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad;

30. Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.

31. Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea.

32. Meddiant y maes, a'r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 49