Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 49:1-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf.

2. Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.

3. Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.

4. Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad: yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.

5. Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.

6. Na ddeled fy enaid i'w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â'u cynulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant ŵr, ac o'u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.

7. Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a'u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.

8. Tithau, Jwda, dy frodyr a'th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti.

9. Cenau llew wyt ti, Jwda; o'r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a'i cyfyd ef?

10. Nid ymedy'r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.

11. Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a'i ddillad yng ngwaed y grawnwin.

12. Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.

13. Sabulon a breswylia ym mhorth‐leoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a'i derfyn fydd hyd Sidon.

14. Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.

15. Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a'r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.

16. Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.

17. Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau'r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.

18. Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.

19. Gad, llu a'i gorfydd; ac yntau a orfydd o'r diwedd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 49