A phan ddarfu'r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a'n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a'n tir.