Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 47:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo, ac a ddywedodd, Fy nhad, a'm brodyr, a'u defaid, a'u gwartheg, a'r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen.

2. Ac efe a gymerth rai o'i frodyr, sef pum dyn, ac a'u gosododd hwynt o flaen Pharo.

3. A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a'n tadau hefyd.

4. Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i'r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen.

5. A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a'th frodyr a ddaethant atat.

6. Tir yr Aifft sydd o'th flaen; cyflea dy dad a'th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben‐bugeiliaid ar yr eiddof fi.

7. A dug Joseff Jacob ei dad, ac a'i gosododd gerbron Pharo: a Jacob a fendithiodd Pharo.

8. A dywedodd Pharo wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?

9. A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 47