4. Myfi a af i waered gyda thi i'r Aifft; a myfi gan ddwyn a'th ddygaf di i fyny drachefn: Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.
5. A chyfododd Jacob o Beerāseba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a'u rhai bach, a'u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i'w ddwyn ef.
6. Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a'u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i'r Aifft, Jacob, a'i holl had gydag ef:
7. Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a'i holl had, a ddug efe gydag ef i'r Aifft.
8. A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i'r Aifft, Jacob a'i feibion: Reuben, cynfab Jacob.
9. A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.
10. A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanëes.
11. Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.
12. A meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.
13. Meibion Issachar hefyd; Tola, a Phufa, a Job, a Simron.
14. A meibion Sabulon; Sered, ac Elon, a Jaleel.
15. Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a'i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.
16. A meibion Gad; Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.
17. A meibion Aser; Jimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia; Heber a Malchiel.
18. Dyma feibion Silpa, yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.
19. Meibion Rahel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin.
20. Ac i Joseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.
21. A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.