Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 46:30-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. A dywedodd Israel wrth Joseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto.

31. A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi.

32. A'r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a'u gwartheg, a'r hyn oll oedd ganddynt.

33. A phan alwo Pharo amdanoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith?

34. Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o'u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a'n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd‐dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 46