Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 46:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y cychwynnodd Israel, a'r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beer‐seba, ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.

2. A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

3. Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i'r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.

4. Myfi a af i waered gyda thi i'r Aifft; a myfi gan ddwyn a'th ddygaf di i fyny drachefn: Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.

5. A chyfododd Jacob o Beer‐seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a'u rhai bach, a'u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i'w ddwyn ef.

6. Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a'u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i'r Aifft, Jacob, a'i holl had gydag ef:

7. Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a'i holl had, a ddug efe gydag ef i'r Aifft.

8. A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i'r Aifft, Jacob a'i feibion: Reuben, cynfab Jacob.

9. A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.

10. A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanëes.

11. Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.

12. A meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.

13. Meibion Issachar hefyd; Tola, a Phufa, a Job, a Simron.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 46