Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 45:3-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseff: ai byw fy nhad eto? A'i frodyr ni fedrent ateb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef.

4. Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i'r Aifft.

5. Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o'ch blaen chwi.

6. Oblegid dyma ddwy flynedd o'r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.

7. A Duw a'm hebryngodd i o'ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.

8. Ac yr awr hon nid chwi a'm hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a'm gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.

9. Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: Duw a'm gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda:

10. A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a'th feibion, a meibion dy feibion, a'th ddefaid, a'th wartheg, a'r hyn oll sydd gennyt:

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 45