Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 43:25-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.

26. Pan ddaeth Joseff i'r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i'r tŷ, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr.

27. Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto?

28. Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni: byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant.

29. Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun; ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, Duw a roddo ras i ti, fy mab.

30. A Joseff a frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i'r ystafell, ac a wylodd yno.

31. Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara.

32. Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i'r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai'r Eifftiaid fwyta bara gyda'r Hebreaid; oherwydd ffieidd‐dra oedd hynny gan yr Eifftiaid.

33. Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf‐anedig yn ôl ei gyntafenedigaeth, a'r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd.

34. Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 43