A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i'r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd.