27. Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i'w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef.
28. Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?
29. A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan; ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,
30. Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a'n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad.
31. Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni; nid ysbïwyr ydym.
32. Deuddeg o frodyr oeddem ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda'n tad ni yng ngwlad Canaan.
33. A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadewch gyda myfi un o'ch brodyr, a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.
34. A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnata yn y wlad.
35. Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt‐hwy a'u tad, ofni a wnaethant.
36. A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseff nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.
37. A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn atat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a'i dygaf ef atat ti eilwaith.
38. Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd‐ddi, yna chwi a barech i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.