20. A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi: felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.
21. Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.
22. A Reuben a'u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod; ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef.
23. Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.
24. Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o'u mysg hwynt Simeon, ac a'i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.
25. Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i'w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.
26. Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.
27. Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i'w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef.
28. Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?
29. A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan; ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,
30. Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a'n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad.