13. Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda'n tad ni, a'r llall nid yw fyw.
14. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.
15. Wrth hyn y'ch profir: Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o'ch brawd ieuangaf yma.
16. Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid e, myn einioes Pharo, ysbïwyr yn ddiau ydych chwi.
17. As efe a'u rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau.
18. Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi.
19. Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o'ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i'ch tylwyth.
20. A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi: felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.
21. Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.
22. A Reuben a'u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod; ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef.
23. Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.
24. Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o'u mysg hwynt Simeon, ac a'i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.