1. Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd?
2. Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aifft: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno; fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.
3. A deg brawd Joseff a aethant i waered, i brynu ŷd, i'r Aifft.
4. Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.
5. A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan.
6. A Joseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseff a ddaethant, ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.
7. A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a'u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.
8. A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.
9. A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy; ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.
10. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.
11. Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.