1. Yna ymhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharo freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.
2. Ac wele, yn esgyn o'r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd‐dir y porent.
3. Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o'r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar lan yr afon.
4. A'r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharo.
5. Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.
6. Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt.
7. A'r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharo; ac wele breuddwyd oedd.
8. A'r bore y bu i'w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a'i holl ddoethion hi: a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a'u dehonglai hwynt i Pharo.
9. Yna y llefarodd y pen‐trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw.
10. Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a'm rhoddes mewn carchar yn nhŷ'r distain, myfi a'r pen‐pobydd.