18. A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.
19. O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a'th groga di ar bren; a'r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat.
20. Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i'w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd ymysg ei weision.
21. Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.
22. A'r pen‐pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy.
23. Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.