Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 40:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Darfu wedi'r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a'r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.

2. A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd:

3. Ac a'u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ'r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym.

4. A'r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a'u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.

5. A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.

6. A'r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.

7. Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?

8. A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.

9. A'r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o'm blaen;

10. Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.

11. Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 40