2. A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio'r ddaear.
3. A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i'r Arglwydd.
4. Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o'u braster hwynt. A'r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:
5. Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef.
6. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd?
7. Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.
8. A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef.
9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?
10. A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o'r ddaear.
11. Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di.
12. Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear.
13. Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau.
14. Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o'th ŵydd di y'm cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a'm caffo a'm lladd.
15. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A'r Arglwydd a osododd nod ar Cain, rhag i neb a'i caffai ei ladd ef.
16. A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhir Nod, o'r tu dwyrain i Eden.
17. Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch.
18. Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech.
19. A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila.