Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 39:9-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw!

10. A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi.

11. A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i'r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.

12. Hithau a'i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.

13. A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan;

14. Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i'n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi; minnau a waeddais â llef uchel;

15. A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.

16. A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 39