16. A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.
17. A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i'm gwaradwyddo;
18. Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.
19. A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi; yna yr enynnodd ei lid ef.
20. A meistr Joseff a'i cymerth ef, ac a'i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.
21. Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy.
22. A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.
23. Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a'r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gydag ef; a'r hyn a wnâi efe, yr Arglwydd a'i llwyddai.