Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 37:21-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A Reuben a glybu, ac a'i hachubodd ef o'u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef.

22. Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i'r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o'u llaw hwynt, i'w ddwyn eilwaith at ei dad.

23. A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef.

24. A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a'r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo.

25. A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i'r Aifft, a'u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.

26. A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?

27. Deuwch, a gwerthwn ef i'r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef; oblegid ein brawd ni a'n cnawd ydyw efe. A'i frodyr a gytunasant.

28. A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o'r pydew, ac a werthasant Joseff i'r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseff i'r Aifft.

29. A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;

30. Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi?

31. A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed.

32. Ac a anfonasant y siaced fraith, ac a'i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siaced dy fab yw hi, ai nad e.

33. Yntau a'i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siaced fy mab yw hi; bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseff.

34. A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.

35. A'i holl feibion, a'i holl ferched, a godasant i'w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i'r beddrod: a'i dad a wylodd amdano ef.

36. A'r Midianiaid a'i gwerthasant ef i'r Aifft, i Potiffar tywysog Pharo, a'r distain.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 37