Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 37:14-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i'th frodyr, a pha lwyddiant sydd i'r praidd; a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a'i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.

15. A chyfarfu gŵr ag ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a'r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?

16. Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?

17. A'r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a'u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a'u cafodd hwynt yn Dothan.

18. Hwythau a'i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef, i'w ladd ef.

19. A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.

20. Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o'r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o'i freuddwydion ef.

21. A Reuben a glybu, ac a'i hachubodd ef o'u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef.

22. Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i'r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o'u llaw hwynt, i'w ddwyn eilwaith at ei dad.

23. A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef.

24. A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a'r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo.

25. A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i'r Aifft, a'u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.

26. A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?

27. Deuwch, a gwerthwn ef i'r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef; oblegid ein brawd ni a'n cnawd ydyw efe. A'i frodyr a gytunasant.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 37