5. A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.
6. A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef;
7. Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El‐bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd.
8. A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon‐bacuth.
9. Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a'i bendithiodd ef.
10. A Duw a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.
11. Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o'th lwynau di.
12. A'r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad.
13. A Duw a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho.
14. A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod‐offrwm, ac a dywalltodd olew arni.
15. A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef, Bethel.