15. A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef, Bethel.
16. A hwy a aethant ymaith o Bethel; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor.
17. A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i'r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab.
18. Darfu hefyd, wrth ymadael o'i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben‐oni: ond ei dad a'i henwodd ef Benjamin.
19. A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
20. A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw.
21. Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o'r tu hwnt i Migdal‐Edar.
22. A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg:
23. Meibion Lea; Reuben, cyntaf‐anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon.
24. Meibion Rahel; Joseff a Benjamin.
25. A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali.
26. A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.
27. A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer‐Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac.
28. A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd.
29. Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a'i feibion, Esau a Jacob, a'i claddasant ef.