10. A Duw a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.
11. Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o'th lwynau di.
12. A'r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad.
13. A Duw a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho.
14. A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod‐offrwm, ac a dywalltodd olew arni.
15. A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef, Bethel.
16. A hwy a aethant ymaith o Bethel; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor.
17. A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i'r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab.
18. Darfu hefyd, wrth ymadael o'i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben‐oni: ond ei dad a'i henwodd ef Benjamin.
19. A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
20. A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw.