11. Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd;
12. Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o'th flaen di.
13. Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a'r gwartheg blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna'r holl braidd.
14. Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo'r anifeiliaid sydd o'm blaen i, ac y gallo'r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.
15. Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o'r bobl sydd gyda mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
16. Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.
17. A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i'w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.
18. Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.