Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 33:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gydag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn.

2. Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a'u plant hwy, a Lea a'i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf.

3. Ac yntau a gerddodd o'u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.

4. Ac Esau a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd ef: a hwy a wylasant.

5. Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu'r gwragedd, a'r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o'i ras i'th was di.

6. Yna y llawforynion a nesasant, hwynt‐hwy a'u plant, ac a ymgrymasant.

7. A Lea a nesaodd a'i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 33